Fe glywch yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad ym Methesda, gyda dros 70% o’r boblogaeth yma yn cysidro eu hunain i siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Defnyddir llechen o’r chwarel lleol fel deunydd i’r adeiladau yn y pentref.

Mae gan Bethesda hanes gref o gerddoriaeth, gyda enwogion fel Super Furry Animals a 9bach wedi eu magu yma. Gallwch hyd yn oed fod ddigon lwcus i fynychu gig yn Neuadd Ogwen ambell benwythnos. Mae gan y neuadd weithgareddau megis yoga ar nosweithiau yn ytod yr wythnos hefyd, ewch i www.neuaddogwen.com am fwy o fanylion.

Roedd y Byncws (yn ei wedd gwreiddiol) yn arfer bod yn gartref dros dro i Charles Dickens pan gafodd gyfnod o fod yn newyddiadurwr yn ysgrifennu erthygl am ddifrod y llong Siarter Frenhinol.

Ffotograffiaeth: © Crown copyright (2013) Visit Wales