Gwych ar gyfer grwpiau

Ar ôl diwrnod o anturiaethau, bydd eich gwesteion profiadol yn eich croesawu yn ôl i’ch llety (y byncws ar gyfer grwpiau mawr neu’r fflat llai i fyny’r grisiau), gyda cegin lawn, ystafelloedd molchi, cyfleusterau i olchi a sychu dillad, a safle diogel i gadw beic. Mae ganddom hefyd wi-fi am ddim, lle parcio, a gallwn drefnu cludiant.

Cwestiwn?

Gweithgareddau awyr agored

Rydym wedi ein lleoli ym Methesda, pentref bach Cymreig yng nghanol mynyddoedd Carneddi, yn agos i Afon Ogwen a chaffi poblogaidd Fitzpatricks. O’r pentref hwn, medrwch ymgymeryd mewn nifer o weithgareddau, megis dringo mynydd neu ddau, cerdded ar hyd lwybrau cyhoeddus a thrwy coedwigoedd, neu beth am ymweld a ZipWorld a Tree Top Adventure!

Gweithgareddau lleol

Croeso Cynnes

Fel rhan o fenter Tabernacl (Bethesda) Cyf, mae’r Byncws Fictoria yn le addas ym mhob tymor o’r flwyddyn; ar gyfer nifer o achlysuron, megis penwythnos antur gyda chydweithwyr, parti plu, aduniad, lleoliad i ymlcaio ar ol cerdded y mynyddoedd, a hefyd fel gwyliau teulu.

Llety