Lle gai barcio?
Mae lle i barcio y tu allan I’r Byncws, er gall fod yn brysur. Mae maes parcio cyhoeddus ‘Talu ac arddangos’ i’w gael, rhaid gyrru heibio’r Byncws (os yw ar y dde) a cymryd y troiad cyntaf i’r dde. Mae modd trefnu bws mini i’ch hebrwng o’r orsaff tren, gyda rhybudd o flaen llaw. Gallwn hefyd drefnu cludiant i ag o weithgareddau lleol.
Oes modd mynd ar y we?
Oes, mae ganddom gysylltiad i’r we drwy’r adeilad cyfan, rhaid nol y cyfrinair gan y staff.
A oes llawer o risiau?
Mae’r lloches fyny dau lawr o risiau eithaf cul, a heb lift, yn anffodus. (Gweler ein Datganiad Hygyrchedd.)
A oes bwyd i’w gael yn y Byncws?
Nid ydym yn cynnig bwyd ond mae cegin gyda popty ag oergell yn y Byncws. Mae ambell gaffi cyfagos a llefydd ‘take away’, ag mwy o ddewis ym Mangor (6 milltir).
Ydi hi’n swnllyd yna?
Oherwydd ein bod wedi ein lleoli uwchben tafarn
Oes rhaid cymryd yr holl le?
Oes, mae ein byncws yn berffaith ar gyfer grwpiau mawr. Mae’n bosib i grwpiau llai archebu’r fflat uchod.
Ydi’r byncws yn addas i deuluoedd gyda plant?
Nacdi, yn anffodus. Rydym wedi ein lleoli uwchben tafarn brysur
* Nodwch, mae’r dafarn ar gau ar hyn o bryd.
Mae tafarn Y Fictoria ar gau ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio’n galed i ail agor cyn gynted a phosib